Tywysog mawr y bywyd clyw

Tywysog mawr y bywyd clyw,
  Ruddfannau f'yspryd gwan,
'Rwy'n barod beunydd ' lwfrhau,
  C'od f'enaid llêsg i'r lan.

Gwna dy addewid fawr ddifêth,
  Yn bob peth im' o Dduw,
Ac yn dy sanctaidd gyfraith gu,
  O cynnal fi tr'wy byw.

Fy nerth a'm hiechyd yn y byd,
  Bydd di O Arglwydd mawr;
Dadguddia haeddiant mawr dy waed,
  Yn rhad i mi bob awr.

O feddyg da y cleifion rai
  All ddofi'm gwae a'm poen;
Gwna i mi ddisgwyl wrth dy draed
  Am iechyd addfwyn Oen.
Diferion y Cyssegr 1802

[Mesur: MC 8686]

gwelir: O ryfedd ryfedd gariad rhad

Great Prince of life, hear
  The groans of my weak spirit,
I am ready daily to lose heart,
  Raise my feeble soul up.

Make thy great, unfailing promise,
  Everything to me, O God,
And in thy dear, sacred law,
  O hold me while ever I live.

My strength and my health in the world,
  Be thou, O great Lord;
Reveal the great merit of thy blood,
  Freely to me every hour.

O good Physician of the wounded ones,
  Who canst tame my woe and my pain;
Make me wait at thy feet
  For the health of the gentle Lamb.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~